top of page

Dysgu Salm 100 ar gof

  • Writer: CrefftauBeca
    CrefftauBeca
  • Aug 29, 2025
  • 2 min read

Un o'r pethau mwyaf gwerthfawr y gallwn ni annog plant i'w wneud wrth i ni eu dysgu am Iesu yw dysgu adnodau o'r Beibl ar gof. Gall atgoffa ein hunain bob dydd o addewidion Duw a phwy ydym ni yn ôl Ef fod yn gysur mawr i ni pan fyddwn yn wynebu amgylchiadau anodd. Maent hefyd yn ein helpu i bwyso ar Dduw pan allwn fod yn dibynnu gormod ar ein galluoedd ein hunain yn lle edrych ato Ef am ein cryfder dyddiol.


Rolling slides showing the words of Psalm 100 verses one to two, with words gradually omitted to aid with memorising the verse.
Salm 100 adnod 3, adnodd ar gael i'w lawr lwytho o fy wefan.

Gall dysgu adnodau o’r cof hefyd fod yn weithgareddau hwyl iawn i’w gwneud gyda’ch teulu, eich dosbarth ysgol Sul, neu hyd yn oed eich cynulleidfa gyfan yn ystod gwasanaeth eglwys. Rwy’n mwynhau meddwl am ffyrdd creadigol gwahanol i wneud hyn yn, a byddaf yn postio mwy o’r rhain ar fy ngwefan yn raddol, gobeithio!


Mae hwn yn un eithaf syml, sydd angen ychydig iawn o baratoi ar eich rhan - lawr lwythwch y PowerPoint rydw i wedi'i roi at ei gilydd ac rydych chi'n barod i fynd. (Gwiriwch bob amser fod y dechnoleg yn gweithio fel y byddech chi'n ei ddisgwyl!)



Wrth geisio dysgu adnod ar gof, ailadrodd yw'r allwedd. Rydw i wedi darganfod mai'r ffordd fwyaf effeithlon yw dechrau trwy ddarllen yr adnod gyda'ch gilydd yn uchel ychydig o weithiau, cyn symud ymlaen i'r sleid nesaf, sy'n cuddio rhai o'r geiriau.


Os ydych chi'n cofio'r adnod gyda'ch gilydd fel cynulleidfa, anogwch yr oedolion i ymuno - gallai fod yn hwyl rhoi'r plant yn erbyn yr oedolion ar y diwedd a gweld pwy sydd wedi dysgu'r adnod orau. (Rydyn ni i gyd yn gwybod y bydd y plant yn ennill!)


Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg (Beibl Rhyngwladol y Plant), ac yn Gymraeg (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig a Beibl.net). Mae croeso i chi wneud unrhyw newidiadau i'r PowerPoint yn ôl yr angen ar gyfer eich gwers, ond peidiwch ag ailwerthu'r adnodd, nac ailddosbarthu unrhyw ran ohono heb roi credyd i’r dudalen we hon.


Pa adnodau eraill ydych chi eisoes wedi'u cofio? Beth am herio'ch hun i gofio'ch hoff adnod, neu adnod newydd bob mis? Unwaith y byddwch chi wedi meistroli Salm 100, efallai mai Salm 119 fydd nesaf i ddilyn?



bottom of page