Bocs Stori'r Geni
- CrefftauBeca

- Oct 15, 2025
- 2 min read
Yn Cyflwyno fy Nhempled Bocs Stori'r Geni
c! Mae'r ffeil argraffadwy hon ar gael i'w lawrlwytho yn syth pan gaiff ei phrynu trwy Etsy, sy'n eich galluogi i ddechrau eich gweithgaredd crefft Nadoligaidd ar unwaith. Byddwn wrth fy modd yn gweld beth rydych chi'n ei wneud gyda'r adnodd hwn, felly tagiwch @CrefftauBeca mewn unrhyw beth rydych chi'n ei bostio ar-lein.
Perffaith ar gyfer Gweithgareddau Teuluol, Ysgol, neu Eglwys

Mae'r templed hwn wedi'i greu i fod yn weithgaredd crefft hwyl ac addysgiadol sy'n addas ar gyfer teuluoedd, ysgolion neu eglwysi. Rwyf wedi cynnwys cyfarwyddiadau llawn ar sut i ddefnyddio'r templed, gan ei gwneud hi'n hawdd i bawb ymuno yn yr hwyl. Mae'r gweithgaredd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, sy'n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer sefyllfaoedd eglwysig dwyieithog. Mae'r templed yn caniatáu ichi ddefnyddio'r bocs fel cefndir ar gyfer gwahanol olygfeydd, gan alluogi plant i actio stori y Nadolig cyntaf gyda'u gwahanol gymeriadau.
Adnodd Cynhwysfawr
Mae eich pryniant yn cynnwys:
Fersiwn Saesneg y templed
Fersiwn Cymraeg y templed
Nodiadau i rieni/arweinwyr gweithgareddau gyda chyfarwyddiadau manwl a lluniau (yn Cymraeg a Saesneg)
Mae'r nodiadau'n cynnwys darnau awgrymedig o'r Beibl ac awgrymiadau ar sut i addasu'r gweithgaredd yn ôl anghenion eich grŵp i'ch helpu i gynllunio'ch gwers.
Bydd Angen...
Argraffydd a phapur i argraffu'r adnodd
Pennau lliwio, pensiliau, neu greonau
Siswrn
Glud (e.e. 'pritt stick')
Pren mesur (dewisol - gallai fod o gymorth wrth blygu'r blwch i'w gydosod.)
Nodyn Pwysig
Cofiwch mai at ddefnydd personol yn unig y mae'r cynnyrch hwn. Gwaherddir yn llwyr ailddosbarthu, ailwerthu neu hawlio'r cynnyrch hwn fel eich un chi.
.png)


