CrefftauBeca
.png)

Bocs Stori'r Geni: Crefft Nadolig
Math o weithgaredd:
Hyd y gweithgaredd:
Darn o'r Beibl:
Fersiwn Beibl:
Disgrifiad:
Templed Crefft
30 mun
Luc 2:1-21
D/b
Dysgwch Stori’r Geni gyda chymorth y templed crefft hwn, sy’n addas ar gyfer teuluoedd, ysgolion ac eglwysi. Mae’r lawrlwythiad yn cynnwys cyfarwyddiadau llawn ar sut i ddefnyddio’r adnodd hwn. Ar gael ar fy siop Etsy.
Ar gael i'w brynu ar Etsy?:
Ie
Bocs Stori'r Geni: Crefft Nadolig
Amser paratoi:
5-10 mun
Nodiadau paratoi:
Lawrlwythwch y templed ac argraffwch faint bynnag o gopïau sydd eu hangen arnoch. Bydd angen pensiliau/pennau/creonau lliwio, siswrn a glud arnoch - dylai 'pritt stick' fod yn iawn. Bydd pren mesur hefyd o gymorth wrth blygu ochrau'r bocs i'w adeiladu. Ystyriwch os fydd angen torri allan rhai setiau o flaen llaw.

Er fy mod wedi dweud bod y gweithgaredd hwn yn ymwneud â Luc 2:1-21, gallech chi hefyd ddefnyddio Luc 1:26-27 a Mathew 2:1-12 i helpu gyda'r stori Nadolig drwy'r gweithgaredd hwn.
Gall plant ddefnyddio eu dychymyg i liwio'r cymeriadau a'r bocs cyn eu torri allan a'u cydosod. Defnyddiwch y bocs fel cefndir ar gyfer actio stori'r Geni. Edrychwch ar fy ffrwd Instagram am fideo stop-symudiad ar adrodd stori'r Geni gyda'r adnodd hwn.
Mae'r gweithgaredd hwn ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, ac felly mae'n ddelfrydol i eglwysi dwyieithog. Mae'r templed yn galluogi i chi ddefnyddio'r bocs fel y cefndir i actio allan rhannau wahanol o Stori'r Geni.
Os ydych chi'n bwriadu gwneud hyn gyda grŵp yn yr eglwys, yn ystod gwasanaeth neu fel gweithgaredd Ysgol Sul, meddyliwch yn ofalus am oedrannau a galluoedd eich plant. Efallai y bydd rhai'n gweld y torri allan ychydig yn anodd, felly efallai yr hoffech chi dorri ychydig o setiau allan eich hun ymlaen llaw fel y gall y plant ieuengaf ganolbwyntio ar y lliwio. Neu byddwch yn barod i dorri nhw allan unwaith mae’r plant wedi gorffen lliwio, i arbed colli unrhyw ddarnau!
Mae'r cyfarwyddiadau'n cynnwys darnau o'r Beibl a awgrymir i ddysgu stori'r Geni ac awgrymiadau ar sut i ddefnyddio'r gweithgaredd ac addasu yn ôl eich grŵp.