CrefftauBeca
.png)
CrefftauBeca

Cymraes ydw i sy'n byw yn Awstralia ar hyn o bryd tra dwi'n cael fy 'mid-life crisis'. Dros y blynyddoedd, dwi wedi cael y fraint o ddysgu gwersi Ysgol Sul a gwneud gweithgareddau crefft achlysurol ar gyfer gwasanaethau, ac rydw i hefyd wedi bod wrth fy modd yn rhoi anrhegion i blant yr eglwys ar gyfer y Nadolig. Dwi'n mwynhau dylunio llawer o fy adnoddau fy hun, gan ceisio aros yn driw i'r hyn mae'r Gair yn ei ddysgu, i annog plant i feddwl am eu hiachawdwriaeth eu hunain a'r hyn y mae Iesu wedi'i wneud drostyn nhw.
Fy nod yw ychwanegu rhai o'r pethau rydw i wedi'u creu at y wefan hon fel y gallent fod o fudd i eraill. Bydd llawer o adnoddau ar gael am ddim, ond efallai y byddant hefyd wedi'u rhestru ar fy siop Etsy. Os gallwch chi, plîs ystyriwch brynu'r adnodd trwy fy siop Etsy i fy nghefnogi. Fel arall, gallwch brynu coffi i mi trwy'r ddolen yn nhroedyn y wefan hon.
Rwyf hefyd yn mwynhau gweithio ar wahanol brosiectau crefft er mwyn fy mwynhad fy hun neu fel anrhegion i bobl - neu dim ond i weld a allaf wireddu'r gweledigaethau yn fy mhen! Dwi'n gobeithio gallu datblygu'r ochr honno o'r wefan hefyd, ond bydd hynny siwr o fod yn digwydd yn bennaf trwy'r blog wrth i mi mwydro am wahanol bethau.
Os gwelwch chi rywbeth rydych chi'n ei hoffi ac y credwch chi fyddai'n anrheg ddelfrydol i rywun, cysylltwch â mi - byddaf yn hapus iawn i gymryd comisiwn!