CrefftauBeca
.png)

Adnod Atgof: Salm 100 adnodau 1-2
Math o weithgaredd:
Hyd y gweithgaredd:
Darn o'r Beibl:
Fersiwn Beibl:
Disgrifiad:
Adnod Atgof
10 mun
Salm 100:1-2
BCND, BNET, ICB
Dysgwch Salm 100 ar eich cof, adnod wrth adnod. Mae hon yn ffeil PowerPoint hawdd ei defnyddio sy'n eich galluogi i ddysgu'r Salm trwy ailadrodd, a thrwy guddio rhai geiriau yn yr adnod yn raddol.
Ar gael i'w brynu ar Etsy?:
Na
Adnod Atgof: Salm 100 adnodau 1-2
Amser paratoi:
5 mun
Nodiadau paratoi:
Lawrlwythwch y PowerPoint i'r ddyfais y byddwch chi'n ei defnyddio ar gyfer eich gwers, gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithio fel y disgwyliwch, ac rydych chi'n barod i fynd!

Awgrymiadau ar gyfer defnyddio'r adnodd hwn
- Rydw i wedi rhannu Salm 100 mewn i bedwar cyflwyniad adnod atgof - maen nhw i gyd yn dilyn yr un fformat. Os hoffech chi ddysgu'r Salm gyfan o'ch cof, efallai mai’n syniad i’w rannu dros bedair wythnos, gan ddibynnu ar oedrannau eich disgyblion - efallai y bydd ychydig yn ormod i'w ddysgu mewn un go.
- Bob wythnos, ailadroddwch yr adnodau blaenorol i annog eich disgyblion i gofio’r Salm. Gwnewch yn siŵr bod rhieni’n gwybod beth yw eich nod, fel y gallant annog eu plant i adrodd yr adnodau yn ystod yr wythnos hefyd.
- Gwnewch yn siŵr bod y cyflwyniad PowerPoint yn mynd i weithio ar ba bynnag ddyfais y byddwch chi'n ei defnyddio yn ystod eich gwers. Dylech wirio nad yw'r PowerPoint yn newid rhwng sleidiau'n awtomatig, dim ond pan gliciwch chi! Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â sut mae'r PowerPoint yn gweithio - mae'n syml iawn.
- Dechreuwch y gweithgaredd drwy gael pawb i ddarllen yr adnod yn uchel, gan ei ailadrodd ychydig o weithiau nes bod eich disgyblion yn swnio’n hyderus.
- Pan fyddwch chi'n meddwl eu bod nhw'n barod, symudwch i'r sleid nesaf, sy’n tynnu un set o eiriau (yn ôl eu lliw). Gofynnwch i'ch disgyblion ailadrodd yr adnod eto, gan weld sut maen nhw'n ymdopi â'r geiriau coll. Os ydyn nhw'n ymddangos yn hyderus, symudwch ymlaen i'r sleid nesaf!
- Peidiwch â phoeni os oes angen i chi fynd yn ôl sleid i'w hatgoffa o'r geiriau coll. Rydym am iddynt gael eu hannog a pheidio â digalonni os ydynt yn ei chael hi'n anodd i ddechrau.
- Yn y pen draw, ni fydd geiriau ar y sgrin o gwbl, a gobeithio y bydd pawb yn gallu adrodd yr adnod o'r cof (gan gynnwys chi!).
- Mae'r sleid olaf yn dangos yr adnod gyfan unwaith eto, i'w helpu i'w gadarnhau yn ein meddyliau.
- Os ydych chi'n defnyddio hwn yn ystod gwasanaeth eglwysig, dylech chi annog yr oedolion i ymuno hefyd. O ran y sleid wag, gallech chi ofyn i'r plant ailadrodd yr adnod ar eu pennau eu hunain cyn gofyn i'r oedolion ei hadrodd ar eu pennau eu hunain, a gweld pwy sydd wedi'i ddysgu orau!
Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg (Beibl Rhyngwladol y Plant), ac yn Gymraeg (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig a Beibl.net). Cliciwch y dolenni isod i lawr lwytho pa bynnag un sydd ei angen arnoch am ddim. Mae croeso i chi wneud unrhyw newidiadau i'r PowerPoint yn ôl yr angen ar gyfer eich gwers, ond peidiwch ag ailwerthu'r adnodd, nac ailddosbarthu unrhyw ran ohono heb roi credyd i’r dudalen we hon.